Sêl Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau | |
Enghraifft o'r canlynol | federal law enforcement agency of the United States, asiantaeth arbenigol sy'n gorfodi'r gyfraith, secret service |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Gorffennaf 1865 |
Pennaeth y sefydliad | Director of the United States Secret Service |
Gweithwyr | 4,500 |
Rhiant sefydliad | United States Department of Homeland Security |
Pencadlys | Washington |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.secretservice.gov/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiantaeth i orfodi'r gyfraith ffederal yn Unol Daleithiau America yw Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Secret Service, USSS) sydd yn rhan o Adran Ddiogelwch Cartref yr Unol Daleithiau. Ei prif swyddogaeth hanesyddol, ers ei sefydlu fel rhan o Adran y Trysorlys ym 1865, oedd archwilio ffugio arian bath. Ehangodd ei ddyletswyddau i gynnwys troseddau ffederal ariannol eraill, megis smyglo, moddion anghyfreithlon o gludo a gwerthu nwyddau, a thwyll post. Wedi llofruddiaeth yr Arlywydd William McKinley ym 1901, daeth y Gwasanaeth Cudd hefyd yn gyfrifol am warchod prif wleidyddion a swyddogion llywodraethol y wlad, eu teuluoedd, a phennau gwladwriaethol a llywodraethol sy'n ymweld â'r Unol Daleithiau. Yn sgil sefydlu'r FBI ym 1908, collodd y Gwasanaeth Cudd ei awdurdodaeth dros nifer o droseddau ariannol, ond parhaodd yn gyfrifol am archwilio tor-cyfraith sy'n ymwneud â'r sector cyllidol a'r banciau. Trosglwyddwydd yr asiantaeth o Adran y Trysorlys i'r Adran Ddiogelwch Cartref yn 2003.[1]